Sialens Sgrifennu Natur Cymru – Gwobr o £500

Natur yn Ysbrydoli-Rheolau ac Awgrymiadau


Mae’r rheolau’n syml – dylech sgrifennu erthygl yn cynnwys 1,000 o eiriau (byddwn yn derbyn 50 o eiriau’n llai neu’n fwy na’r cyfanswm yma.) Rhaid anfon yr erthyglau at info@naturcymru.org.ukerbyn 31 Mawrth 2010.

Cofiwch gynnwys eich enw yn eich e-bost ac yn nhestun eich erthygl.

Wrth gystadlu, mae’r enillydd yn cytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau a deunyddiau hyrwyddol, oherwydd efallai y bydd Natur Cymru yn dymuno cyhoeddi’r erthygl yn y cylchgrawn.

Mae croeso ichi gynnwys mapiau, graffiau, tablau, lluniau neu ffotograffau gwreiddiol, ond nid ydynt yn hanfodol. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd hawlfraint cyn atgynhyrchu unrhyw luniau ac ati. Dylech anfon y rhain mewn ffeiliau ar wahân (.jpeg, .tif, .bmp ac ati) – NI DDYLECH eu hymgorffori yn nhestun yr erthygl. Os byddwch yn anfon lluniau digidol, ceisiwch gael rhai mor glir ag y bo modd (cydraniad mor uchel â phosibl).

Peidiwch ag anfon lluniau sydd wedi’u llwytho i lawr oddi ar wefannau. Ni fyddant yn ddigon clir i’w hargraffu, ac fe allech gael problemau gyda’r hawlfraint.

Awgrymiadau ardderchog....