Y llynedd, roedd y gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr a oedd yn astudio ym mhrifysgolion Cymru, ond eleni mae’n agored i bawb. Nid oedd modd i’r beirniaid ddewis un enillydd, felly cafodd yr arian ei rannu’n gyfartal rhwng Dave Wright o Brifysgol Bangor ac Owen Bidder o Brifysgol Abertawe. Iolo Williams, y cyflwynydd rhaglenni natur ar y teledu, a gafodd y fraint o gyflwynodd sieciau o £250 i’r ddau enillydd. Cafodd y tri a ddaeth agosaf at y brig danysgrifiadau i Natur Cymru. Fe gafodd y ddwy erthygl fuddugol eu cyhoeddi yn Natur Cymru, a gallwch gael cipolwg ar y rhain trwy glicio ar y cysylltau isod.
Cliciwch yma i weld"Glowing ghosts of the sea" gan David Wright
Cliciwch yma i weld"The European polecat: unsung species"gan Owen Bidder