Sialens Sgrifennu Natur Cymru – Gwobr o £1,000

Natur yn Ysbrydoli


Cynnwys gwreiddiol
Os yw eich hoff bwnc yn digwydd bod yn un y mae llawer o drafod wedi bod arno eisoes, ceisiwch gynnig golwg newydd arno, cynigiwch ymresymiad newydd, neu ceisiwch gynnwys profiad personol a fydd yn cydio yn nychymyg y darllenydd. Pam na wnewch chi gyflwyno dadleuon newydd a gwahanol – beth fyddai’n digwydd pe baem yn rhoi’r gorau i wneud y peth a’r peth?

Defnyddio iaith syml a chlir (Cymraeg neu Saesneg)
Defnyddiwch frawddegau byrion o ddim mwy na 30 gair. Os defnyddiwch chi frawddegau sy’n 50 gair neu fwy, a hynny’n rheolaidd, bydd yn anos i’r darllenydd ddilyn trywydd eich trafodaeth. Gan amlaf, mae modd hollti brawddegau hirion yn ddwy – fe ddaw hyn yn ail natur ichi wrth ymarfer.

Ceisiwch ddefnyddio berfau “gweithredol” yn hytrach na berfau “goddefol”, gan eu bod yn fwy uniongyrchol a chryno. Nid oes angen glynu’n ddiwyro at y rheol yma, wrth gwrs. Weithiau, mae defnyddio berfau goddefol yn anochel, neu hyn yn oed yn well.

Gweithredol

Goddefol

Buom yn arolygu 10 hectar o weundir.

Arolygwyd 10 hectar o weundir gennym.

Y Brifysgol a fu’n rheoli’r prosiect.

Rheolwyd y prosiect gan y Brifysgol.

Erthygl sy’n dal sylw’r darllenydd ac yn tanio’i ddychymyg
Rhaid i’r erthygl ddal sylw’r darllenydd a chyflwyno pethau newydd iddyn nhw – ffeithiau diddorol, safbwyntiau gwahanol neu straeon personol. Mae croeso ichi sôn am eich profiadau a’ch teimladau personol. Gallwch fod yn ddoniol neu’n farddonol, gallwch ddyfynnu o ffynonellau anwyddonol – unrhyw beth, cyn belled â’i fod yn berthnasol ac yn ychwanegu at eich gwaith. Gallwch dantro hyd yn oed, cyn belled â bod gennych dystiolaeth gadarn ac na fyddwch yn sgrifennu unrhyw beth enllibus.

Y dudalen flaenorol...