Sialens Sgrifennu Natur Cymru – Gwobr o £1,000

Natur yn Ysbrydoli


Y sialens yw sgrifennu erthygl 1,000 o eiriau ar bwnc cyfoes yn ymwneud ag amgylchedd neu fywyd gwyllt Cymru – pwnc sy’n eich ysbrydoli chi. Bydd yr enillydd yn cael siec o £500, yn rhoddedig gan WWF Cymru, a bydd yr ail yn cael lle gwerth £500 ar y cwrs sgrifennu am fyd natur yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd.

Cylchgrawn chwarterol sy’n tynnu sylw at fywyd gwyllt a natur ein gwlad yw Natur Cymru. Pwrpas y gystadleuaeth yw tanio trafodaethau ac annog cyfraniadau gan bobl sy’n angerddol dros fyd natur Cymru.

Bydd yr erthyglau’n cael eu beirniadu gan banel o feirniaid. Dyma fydd y beirniaid yn chwilio amdano:

  • Cynnwys gwreiddiol
  • Iaith glir (Cymraeg neu Saesneg)
  • Erthygl sy’n dal sylw’r darllenydd ac yn tanio’i ddychymyg.

 

Wrth sgrifennu’r erthygl, dylai’r awduron ganolbwyntio ar gynulleidfa arbennig sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a phynciau amgylcheddol – ond nid arbenigwyr o angenrheidrwydd.

Gall pawb sy’n tanysgrifio i’r cylchgrawn gystadlu – ac eithrio staff Natur Cymru, staff WWF neu staff Tŷ Newydd. Dylid cyflwyno’r erthyglau, ac unrhyw luniau (os dymunir), trwy e-bost i info@naturcymru.org.uk erbyn 31 Mawrth 2011. Yna, bydd panel o feirniaid, gan gynnwys Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn dewis yr erthyglau buddugol, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn rhifyn Haf 2011 Natur Cymru.

Os bydd gennych ymholiadau ynglŷn â’r gystadleuaeth, anfonwch e-bost at: huw.naturcymru@btinternet.com